High Grade Tutors

Dysgwch sut i addysgu eich sgiliau a'ch creadigrwydd i eraill, a chael eich talu!

Beth yw High Grade Tutors?
Dysgwch sut i Addysgu

Mae’r prosiect hwn yn gyfle i roi sgiliau pobl ifanc greadigol (18 - 25) ar waith i ddarganfod sut i ddysgu’r sgiliau yna i eraill. Bydd y cyfle CYFLOGEDIG hwn yn helpu pobl greadigol ifanc i wneud incwm o’u doniau a’u hangerdd am gerddoriaeth, gan ennill tâl diwydiant am hyfforddiant ac arwain gweithdai. Y nod yw mentora’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol creadigol trwy ddangos iddynt sut mae gyrfa fel cerddor / gweithiwr llawrydd o fewn ei cyrraedd trwy wneud y mwyaf o’u sgiliau gyda ffynhonellau incwm amrywiol.

Beth sydd ar gael?

Ffi diwydiant ar gyfer addysgu. Byddwch yn arwain gweithdai i grwpiau o bobl ifanc. Bydd y gweithdai'n cael ei datblygu ochr yn ochr â'r mentoriaid, gan ddangos i chi sut orau i addysgu'ch sgiliau i eraill. Enghreifftiau o sesiynau posib - Ysgrifennu Caneuon, Cynhyrchu Cerddoriaeth, DJio, Rap ac ati…

Byddwch yn cael eich talu am bob sesiwn y byddwch yn ei arwain, bydd y nifer o sesiynau yn dibynnu ar eich argaeledd.
Peidiwch â phoeni os ydych mewn cyflogaeth neu addysg, gallwn fod yn hyblyg a gweithio o amgylch eich argaeledd.

Cymhwysedd

Rhaid bod rhwng 18-25 oed
Rhaid bod wedi'i leoli yng Nghymru
Mynychu sesiynau mentora a gweithdai

Ceisiadau

I wneud cais cliciwch y botwm isod. Mae’r dyddiad cau am hanner nos, Hydref 13

Cwrdd â'r Mentoriaid

Endaf

Mae Endaf wedi creu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth trwy ddod o hyd i lawer o ffyrdd o wneud incwm gan ddefnyddio ei sgiliau fel Cynhyrchydd Cerddoriaeth a DJ.

Troelli llawer o blatiau.. a recordiau… Mae Endaf yn rhedeg Label Recordiau, Busnes Digwyddiadau, Asiantaeth DJio, Prosiectau wedi ei Ariannu yn ogystal â bod yn weithiwr llawrydd llwyddiannus yn gweithio ar brosiectau amrywiol o Deledu, Radio, Digwyddiadau, ac Addysgu i enwi ond ychydig.

Mae gan Endaf flynyddoedd o brofiad addysgu ar ôl cynnal gweithdai a prosiectau i sefydliadau fel Gwasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn, Eisteddfod, Urdd, Gwallgofiaid yn ogystal â nifer o ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid.

“Os gallaf i ei wneud, gallwch chi. Cymerwch ran!”

Mae angerdd Endaf dros gerddoriaeth wedi ysbrydoli llawer o’r bobl ifanc greadigol sydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau blaenorol i ddilyn llwybrau i greu gyrfa yn y diwydiant, bob amser yn agored i rannu gwybodaeth a helpu i wneud cysylltiadau.


Klaudia Zawadka

Klaudia yw’r hyn rydym ni’n ei alw yn y diwydiant yn ‘arwr di-glod’. Dechreuodd ei hangerdd am gerddoriaeth a digwyddiadau byw yn ôl yn 2014 pan ymunodd â chriw clybiau nos lleol ochr yn ochr â chwblhau ei gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor. Datblygodd ei rôl yn gyflym o ddosbarthu taflenni i drefnu, cynllunio a rheoli'r digwyddiadau wythnosol. Ar ôl cwblhau ei gradd meistr mewn Cyfrifeg yn 2018 daeth yn weithgar iawn gyda High Grade Events gan helpu Endaf gyda materion ariannol, cynllunio a rheoli prosiectau newydd.

Mae'r prosiect hwn yn bosibl diolch i Youth Music.